Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Mai 2018
Amser:
09.04 -
12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4847
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Rhianon Passmore AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Anna Whitehouse, Mother Pukka |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
2.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jenny Rathbone AC a Gareth Bennett AC.
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Anna Whitehouse, Sylfaenydd, Mother Pukka
3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Anna Whitehouse i roi ystadegau y mae wedi'u casglu gan ei dilynwyr wrth baratoi at y sesiwn, yn ogystal ag enghreifftiau o ymarfer gan fusnesau.
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gweithio yng Nghymru.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.